Mae BywydCampws yma i helpu myfyrwyr i lywio’r ffordd yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe.
Rydym yn deall bod angen inni eich cefnogi mewn ffyrdd amrywiol er mwyn ichi fwynhau eich amser yn y brifysgol i’w botensial llawn.
Rydym yn cynnig gwasanaethau cyngor a chymorth diduedd am ddim i fyfyrwyr, heb feirniadu, mewn amgylchedd cartrefol, cyfeillgar a chyfrinachol. Dewch i’n gweld i gael cymorth arbenigol gan wasanaethau’r Gaplaniaeth, Cymunedol, Rhyngwladol, Ariannol a Llesiant.
Sut i gysylltu â ni Gaplaniaeth, Cymunedol, Rhyngwladol, Ariannol a Llesiant.
Angen cyngor a gwybodaeth nawr? Edrychwch ar adnoddau hunangymorth ar-lein Lles@BywydCampws er mwyn dysgu rhagor.