21 ffordd ichi ddifyrru’ch hun yn ystod y cyfyngiadau symud

Mae’n oer ac yn dywyll, mae bywyd yn teimlo fel Groundhog Day, rydych chi wedi gweld popeth ar Netflix a Disney+, does dim awydd gennych chi wneud cwis Zoom arall byth eto ac rydych chi wedi defnyddio’r dogn o amser cerdded beunyddiol a oedd gyda chi. Rydyn ni’n eich deall chi i’r dim!

Mae’n hynod o bwysig i bawb fod mewn cysylltiad â’i gilydd ac ichi ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y cyfnod gwyllt hwn, felly gan ddefnyddio rhyw fymryn o greadigedd ceir nifer o ffyrdd o hyd i chi oroesi Cyfyngiadau Symud 3.0. Rydyn ni wedi rhoi rhestr o 21 gweithgarwch at ei gilydd i’ch rhoi chi ar ben y ffordd.

1. Trefn y Bore

Ewch ati i greu trefn yn y bore sy’n eich paratoi ar gyfer y diwrnod. Mae’n aeaf arnon ni, ac yn ystod y cyfyngiadau symud presennol mae rhai pethau’n demtasiwn fawr, er enghraifft gorwedd yn y gwely ar ôl i’r larwm ganu, aros yn eich pyjamas drwy’r dydd a gadael eich ystafell wely dim ond pan fyddwch chi eisiau byrbryd OND mae creu trefn y bore yn hynod o bwysig ar gyfer eich lles meddyliol. Mae’n cymryd 21 diwrnod i greu arfer. Dechreuwch gyda’r pethau symlaf – megis gwydraid o ddŵr cyn ichi ymestyn am y caffein.

2. Ysgrifennwch Gân  

Mae rhai astudiaethau wedi dangos bod ysgrifennu caneuon yn llesol iawn i’ch iechyd corfforol ac emosiynol – gall y manteision gynnwys hwyliau gwell, llai o bwysau/symptomau o orbryder, pwysedd gwaed llai, cof cyfnod byr gwell a hyd yn oed welliant o ran y defnydd o’r ysgyfaint. Dyma hefyd brosiect creadigol a llawn hwyl sy’n eich cadw’n brysur ac yn eich cadw rhag teimlo’n ddiflas. Mynnwch gip ar y cwrs ysgrifennu caneuon ar-lein hwn am ddim  

3. Trefnwch barti ciniawa gyda swigen eich aelwyd

Yn ystod y pandemig rwy’n siŵr bod pob un ohonon ni wedi bod yn euog o fwyta’n swper o flaen sgrin (bod yn ffôn, yn llechen neu’n deledu!) a pheidio â sawru’n bwyd neu fwynhau cwmni’n swigen. Mae cynnal parti ciniawa yn ffordd llawn hwyl o fod yn greadigol yn y gegin ac o gymdeithasu go iawn gyda chyfeillion eich tŷ. Rhowch eich gliniaduron a llyfrau sy’n ymwneud ag astudio o’r neilltu, trefnwch rai gemau, gwnewch restr o ganeuon i’w chwarae a meddyliwch am gynnwys y fwydlen. Gallwch chi hyd yn oed droi’r digwyddiad yn gystadleuaeth sy’n debyg i Come Dine with Me neu gallech chi gael swper rhannu prydau pan fydd pawb yn dod â saig wahanol.

4. Noson Karaoke 

Ydych chi’n gweld eisiau’r noson karaoke gyda’ch ffrindiau? Gallwch chi gynnal y noson o hyd gartref. Mae apiau megis AirConsole yn caniatáu ichi droi’ch ffôn clyfar yn feicroffon, felly byddwch chi’n gallu canu’ch hoff ganeuon enwog gyda’ch ffrindiau yn ogystal ag ymarfer rhai newydd.

5. Glanhewch y Traethau/Cyrch Codi Sbwriel

Rydyn ni’n ffodus iawn o gael cynifer o draethau a pharciau hardd yn Abertawe, ond yn anffodus nid pawb sy’n eu parchu. Wrth fynd am dro am 20 munud, ewch â bag du a menig gyda chi, codwch yr holl ddarnau o sbwriel y dewch ar eu traws. Os yw sbwriel yn rhywbeth sy’n eich poeni’n fawr, lawrlwythwch yr ap Planet Patrol (am ddim ar iOS ac Android) lle gallwch chi gofnodi’r sbwriel yn ôl math, brand, lleoliad ac ati gan fod hyn yn helpu i greu tystiolaeth yn erbyn corfforaethau a’r llywodraeth er mwyn eu dal yn atebol.

6. Trwsiwch eich dillad Oes pentwr o sanau â thyllau ynddyn nhw yng nghefn eich drôr neu hwyrach bâr o grysau gyda botymau yn eisiau? Gallwch chi roi bywyd newydd i ddillad treuliedig drwy wneud trwsiadau syml. Bydd yr amgylchedd yn diolch ichi am eu cadw i ffwrdd o’r safle tirlenwi a byddwch chi’n

arbed arian gan na fydd angen prynu rhai newydd arnoch chi! Mynnwch gip ar y tiwtorialau yma ac yma.

7. O’r soffa i 5K

A yw rhedeg yn un o’ch Addunedau Blwyddyn Newydd ond rydych chi’n ansicr ynghylch ble i ddechrau? Mae Couch to 5K yn mynd â chi o ddechreuwr pur i rywun sy’n rhedeg 5K ymhen 9 wythnos.

8. Profiad Airbnb

Mae Airbnb wedi casglu ynghyd raglen anhygoel o brofiadau o bell i’n difyrru yn ystod y cyfnod pan na fyddwn ni’n gallu teithio. Mae rhywbeth i bawb, gan gynnwys dosbarthiadau dawnsio a chaligraffi. Zoom sy’n cynnal y dosbarthiadau ac mae’r prisiau’n dechrau o £4.

9. Ydych chi’n teimlo’n gystadleugar?

Rhowch hwb i’ch gwybodaeth gyffredinol gyda Sporcle fel y byddwch chi’n barod ar gyfer yr adeg pan fydd Cwisiau Tafarn yn ailgychwyn.

10. Dyddiadur Cyfyngiadau Symud

Ydych chi’n cael trafferth i weld y goleuni yn nhwnnel cyfyngiadau symud 3.0, sef y Groundhog Day sydd byth yn gorffen? Dechreuwch ysgrifennu dyddiadur cyfyngiadau symud. Hwyrach y byddwch chi ond yn ysgrifennu 2-3 brawddeg a fydd yn crynhoi’r diwrnod neu gallai fod ar ffurf tynnu llun bob diwrnod. 

11. Cymorth Cyntaf

Mae bob tro’n dda bod yn barod ar gyfer argyfwng – gallwch chi ddysgu Cymorth Cyntaf ar-lein am ddim yma.

12. Sgyrsiau TED

Oes pwnc gennych chi yr ydych chi’n angerddol amdano? Dewch â’r bobl yn eich swigen ynghyd a rhowch eich Sgwrs TED eich hun.

13. Her Lles

Mae cadw’n heini’n gwneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd y byddwch chi’n teimlo’n feddyliol ac yn emosiynol. Beth am roi cynnig ar her lles beunyddiol a fydd yn eich helpu i gysgu’n well a gwella’ch hwyliau? Gan gynnwys Ioga, Ymarferion Craidd neu hyd yn oed Fyfyrio, mae llawer o weithgareddau i ddewis o’u plith. Pan fyddwch chi’n ymarfer, cofiwch yfed digon o ddŵr, peidiwch â gorwneud pethau a gwnewch eich ymarferion twymo’n drwyadl cyn y byddwch chi’n dechrau arni.

14. Disgo Cegin

Os nad ydych yn hoff o sesiynau ymarfer corff strwythuredig, beth am chwarae rhestr eich hoff ganeuon a dawnsio yn y gegin yn ystod seibiant. Dyna chi ffordd ardderchog i wella’ch hwyliau, lleihau gorbryder ac, os byddwch chi’n cynnwys y bobl yn eich swigen, byddwch chi’n meithrin clymau cymdeithasol hefyd!

15. Peintiwch gyda Bob Ross

Mae 403 rhifyn o The Joy of Painting wedi’u hychwanegu at YouTube, felly cythrwch am y paent a’r brwshis a gadewch i’r creadigedd lifo.   

16. Amgueddfeydd ac orielau ar-lein

Mae nifer fawr o orielau ac amgueddfeydd ledled y byd yn cynnig teithiau rhithwir am ddim. Ymwelwch â MoMA yn Efrog Newydd, neu hwyrach hoffech chi wibio draw i Fflorens i weld yr Uffizi, neu gallwch chi aros yn y DU wrth gwrs a chael cip ar amgueddfa Tate. Os nad yw hyn yn ddigon i ddiwallu’ch awch am gelfyddyd a diwylliant, yna mae casgliad y celfyddydau a diwylliant Google yn gartref i deithiau rhithwir o 500 o’r prif atyniadau ledled y byd.

17. Darllen

Os oeddech chi wedi gwneud addunedau blwyddyn newydd o ran llyfrau, yna nawr heb os nac oni bai yw’r adeg ichi ddwyn y maen i’r wal! Ydy’ch pentwr o lyfrau angenrheidiol i’w darllen yn mynd yn rhemp? Gwnewch yr addewid na fyddwch chi’n prynu’r un llyfr arall hyd nes y byddwch wedi darllen pob un ohonyn nhw! Ydych chi’n cael trafferth i ganolbwyntio ac eisiau rhoi cynnig yn hytrach ar lyfr awdio? Rhowch gynnig ar Audible am ddim. A ddarllenoch chi lyfr yr oeddech wedi dwlu arno ac yr ydych chi’n siarad amdano byth a hefyd? Dechreuwch glwb llyfrau rhithwir

18. Dysgwch Iaith

Oes gyda chi gynlluniau mawr pan fydd hyn oll drosodd? Beth am geisio dysgu ychydig o ymadroddion yn iaith y wlad yr hoffech chi ymweld â hi – mae’r cwrs Eidaleg hwn i ddechreuwyr  yn eich addysgu sut i gwrdd â phobl, cyfarch â nhw ac archebu bwyd, neu hwyrach rydych chi’n credu y byddai Mandarin yn edrych yn wych ar eich CV? Hwyrach eich bod eisiau rhoi sglein ar eich Cymraeg, ap sydd ar gael am ddim ar iOS ac Android yw Say Something in Welsh sy’n addysgu Cymraeg llafar a naturiol mewn ffordd gyflym a rhwydd.  

19. Ymunwch â Chymdeithas    

Mae gan Brifysgol Abertawe fwy na 150 o gymdeithasau, mae ymuno â chlwb neu gymdeithas yn ffordd wych o gwrdd â phobl o anian debyg yn ogystal â gwneud ffrindiau newydd.

20. Awgrymiadau os byddwch chi’n hunanynysu

Gofodwr NASA wedi’i ymddeol yw Scott Kelly a dreuliodd bron i flwyddyn yn yr Orsaf Ofod Ryngwladol. Mae ganddo fe lawer o awgrymiadau ynglŷn â sut i ymdopi â hunanynysu

21. Ymuno â Bywyd Campws ar gyfer digwyddiad ar-lein

Rydyn ni wedi amserlennu nifer o ddigwyddiadau ar-lein drwy gydol mis Ionawr a mis Chwefror, gan gynnwys Zumba, cyfeillion cyflym ar-lein a bingo. Mynnwch gip ar Fatsoma am ragor o fanylion.

Os ydych chi eisiau rhoi cynnig ar hobi newydd, dysgu sgil newydd neu hyd yn oed wella’ch cyflogadwyedd, rydyn ni’n gobeithio y bydd rhywbeth ar y rhestr hon a fydd yn rhoi gwên ar eich wyneb. Cofiwch roi gwybod inni ar hyd ein sianeli cymdeithasol os byddwch chi’n rhoi cynnig ar ambell i weithgaredd!

Leave a comment

Design a site like this with WordPress.com
Get started