5 Taith Gerdded Leol

Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd ac rydyn ni o’r diwedd yn rhydd i ailgydio yn y gwaith o ddod i adnabod ein dinas hardd! Rydyn ni wedi llunio ychydig o syniadau ar gyfer rhai teithiau cerdded lleol hyfryd, ac mae pob un yn hawdd cyrraedd ati i’r rheiny ohonoch chi sydd heb gar.


Gerddi Clun

I’r rheiny nad ydych chi’n gyfarwydd â Gerddi Clun, mae’n ardd fotaneg sy’n edrych dros Fae Abertawe. Mae mynedfa’r gerddi wrth ymyl tafarn The Woodman (tua 20 munud ar droed o Gampws Singleton).

Yn ystod mis Mai, dethlir Gerddi Clun yn eu Blodau. Dyma’r adeg pan fydd blodau arobryn Gerddi Clun ar eu harddaf. Cewch chi ddigonedd o lecynnau yng Ngerddi Clun lle gallwch chi dynnu lluniau ar gyfer Instagram, gan gynnwys y Bont Siapaneaidd, Tŵr y Llyngesydd, Castell Clun a Choedwig Clychau’r Gog. Ceir hefyd olygfeydd godidog o Fae Abertawe.

A dewch i weld hefyd yr Ystafell De Deithiol yn swatio’n ddestlus yng nghanol y gerddi, sef hen garafán glasurol sy’n cynnig te, coffi, cacennau a chopïau o The Happy News! Dyna chi le delfrydol i dreulio prynhawn gwanwyn heulog.


Mynydd Cilfái

Ydych chi’n chwilio am olygfeydd mwy syfrdanol o Fae Abertawe a thu hwnt? Mynydd Cilfái yw’r lle ichi. Mae’r daith gerdded yn llwybr crwn o 1.3 milltir ar ochr ddwyreiniol Abertawe sy’n cynnwys Mynydd Cilfái.

Coetir ifanc yw Mynydd Cilfái ac yn lloches i fywyd gwyllt yn y ddinas. Mae’n un o goetiroedd mwyaf Abertawe ar ymyl y ddinas ac ar ei gopa ar ddiwrnod clir gallwch chi weld cyn belled â Bannau Brycheiniog.

Os byddwch chi’n codi’n gynnar, dyma’r daith gerdded berffaith i fwynhau’r olygfa a gweld yr haul yn codi ar yr un pryd. Ewch i #KilveyHill i gael eich ysbrydoli.


O Langland i Caswell

Mae’r darn o dir rhwng Langland a Caswell, sy’n rhan o Lwybr Arfordirol Cymru, yn llwybr crwn hyfryd 2 filltir o hyd, a bydd pobl leol ac ymwelwyr sy’n dod i Abertawe yn mwynhau gogoniannau’r daith gerdded hon. A dau draeth baner las ar y naill ben a’r llall, byddwch chi’n mwynhau nifer o lefydd godidog megis y cytiau traeth gwyrdd hyfryd yn Langland, y blodau gwyllt hardd a’r bywyd gwyllt – yn aml bydd modd gweld morloi llwyd ac weithiau lamhidyddion hyd yn oed yn torheulo yn heulwen yr haf.

I gyrraedd Langland gallwch chi gael y bws 3A (o’r orsaf fysiau, Neuadd y Ddinas neu Gampws Singleton), a bydd hwn yn mynd â chi’n uniongyrchol i fae Langland ymhen tua 30 munud. Os ydych chi’n heiciwr brwd, gallech chi hepgor y siwrnai bws a chychwyn ar y daith drwy ddilyn yr arfordir o Fae Abertawe’r holl ffordd i Langland ac yna Caswell.


Chwarel Rosehill

Mae Chwarel Rosehill, sy’n warchodfa natur gudd y tu ôl i Mount Pleasant, yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd gan gynnwys coetir, rhostir, prysgwydd a gwlyptiroedd. Gallwch chi gael cip ar lwynogod a bysedd y cŵn, rhedyn brenhinol a gloÿnnod byw’r fantell goch yn ogystal â hen ffiniau caeau a chloddiau sy’n dyddio’n ôl i adeg y Ddeddf Cau Tiroedd yn y 18fed ganrif.

Y safle yw parc cymunedol cyntaf Abertawe ac ynddo mae sawl pwll, nant a rhaeadr. Ceir trac BMX, byrddau picnic a labyrinth Cretaidd – maen nhw’n dweud y gall cerdded ar hyd y labyrinth beri ichi deimlo’n llonydd eich meddwl ac yn sicr, bydd o les ichi.

Gallwch chi gyrraedd Chwarel Rosehill naill ai drwy allanfa uchaf Parc Cwmdoncyn (yn yr Uplands) neu ceir mynedfa wrth Heol Terrace, Mount Pleasant.


Bryn y Mwmbwls

Dyma warchodfa natur leol arall a chyfle arall i fwynhau golygfeydd ysblennydd o Abertawe. Ar ddiwrnod clir gallwch chi weld cyn belled â Dyfnaint. Dechreuwch eich taith gerdded ar ffordd y Mwmbwls wrth ymyl bwyty’r Mermaid. Mae yna set o risiau sy’n gwyro tua’r chwith drwy rywfaint o goetir a bydd hyn yn mynd â chi i ben bryn y Mwmbwls.

Dyma le gwych arall i gael cip ar fywyd gwyllt gan fod 40 rhywogaeth o adar a channoedd o rywogaethau o ieir bach yr haf, gwenyn a chwilod wedi’u cofnodi ar y bryn.

Adeiladwyd safleoedd tanio amddiffynnol ar y bryn yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae olion y 623ain llwyfan tanio Magnelfeydd Gwrthawyrennau a byncer rheoli i’w gweld o hyd ar y bryn.


Rydyn ni’n gobeithio y bydd y rhestr hon wedi cynnig rhai lleoedd newydd ichi’u darganfod. Peidiwch ag anghofio i’n tagio yn eich lluniau os byddwch chi’n ymweld ag unrhyw un ohonyn nhw a rhowch wybod inni p’un yw eich hoff le!

Leave a comment

Design a site like this with WordPress.com
Get started